Mae Pwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol, sydd wedi'i leoli yn swyddfa Cyffordd Llandudno, wedi cael ei sefydlu er mwyn cydlynu, hyrwyddo a hybu digwyddiadau ar hyd Cymru.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn Gymdeithas Adrannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y CSSC gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, Bonesig Gillian Morgan yn llywydd. Mae'r CSSC yn sefydliad sy'n hybu iechyd a lles i weision sifil ar hyd y DU. Dim ond £3.50 y mis yw aelodaeth, gyda'r arian yn mynd yn uniongyrchol allan o'ch cyflog, mae buddion enfawr ar gael i'r unigolyn a Llywodraeth Cymru.
Gweithgor Chwaraeon a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru
Chwith i dde:Siwan Williams, Gareth Owen, Sue Boorman, Lisa Tudor, Debbie Waddington, Lesley Law, James Woodbine ac Erika Dawson.
Cewch fynediad i amrywiaeth o weithgareddau ar hyd a lled y DU Ynyd a'r cyfle i gwrdd â sefydliadau eraill o fewn y gwasanaeth sifil.
Gweithgareddau wedi'i deilwrio i Lywodraeth Cymru ar draws holl stad Llywodraeth y , boed hynny'npêl droed 5 bob ochr, tripiau siopa a theatr, penwythnos o salsa neu ddiwrnod hwyl i'r teulu cyfan - mae'r rhestr yn ddiddiwedd!
Cerdyn Countdown sy'n galluogi i chi fanteisio ar gannoedd o ddisgowntiau mewn siopau, archfarchnadoedd a gwasanaethau ar draws y DU ac yn eich ardal leol, yn cynnwys disgownt ar docynnau sinema.
Mae'r Gymdeithas Adrannol yn derbynenillion blynyddol ar gyfer eich aelodaeth, sy'n darparu ffynhonnell gyllid i'ch helpu cymryd rhan mewn gweithgareddau arbennig ar draws Cymru gyfan.Y mwyaf o'r aelodau sydd gennym, mwy o gymorth gallwn ei gynnig.Edrychwch am y ffurflen gais yn eich pecyn cyflwyno ac ymunwch heddiw!
Rydym eisiau i chi adael i ni wybod beth yw eich diddordebau a beth fyswch hoffi gymryd rhan ynddo.Gallwn eich cyfeirio at bobl sy'n rhannu'r un diddordebau a helpu chi fwrw ati.Gallwn hefyd helpu chi wirfoddoli trefnu gweithgareddau a digwyddiadau.